FAQ's
Gobeithio fod siopa efo Grasi wedi bod yn brofiad dymunol ac eich bod yn hapus efo’ch cynnyrch newydd
Ein Telerau
Gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o’n telerau cyn rhoi archeb.
1. Talu am eich cynnyrch
Gallwch dalu drwy ddefnyddio eich cardyn neu ‘Paypal’.
2. Cyflenwi eich archeb
Bydd yr holl eitemau sydd mewn stoc yn cael eu dosbarthu o fewn 2 ddiwrnod gwaith cyn gynted ag y byddwn yn derbyn eich archeb a'ch taliad llawn. Bydd parseli mawr yn cael eu dosbarthu gan Parcelforce, sy'n cymeryd hyd at 2 ddiwrnod gwaith o’r dyddiad postio, a’r parseli bach efo’r Post Brenhinol. Ar gyfer archebion tramor a heb fod yn dir mawr y DU, cysylltwch â ni trwy e-bost am bris postio.
3. Dychwelyd eich cynnyrch
Gobeithiwn eich bod yn hapus gyda'ch cynnyrch, ond gallwch ddychwelyd yr eitemau atom o fewn 14 diwrnod gwaith i'w had-dalu neu eu cyfnewid yn llawn. Rhaid i bob eitem fod heb ei ddefnyddio ac wedi eu lapio’n ofalus yn eu phecynnu gwreiddiol. Eich cyfrifoldeb chi yw trefnu a thalu am ddychwelyd y cynhyrchion atom felly rydym yn argymell eich bod yn cael prawf postio gan na fydd Grasi yn gyfrifol am golledion neu a difrod wrth eu cludo. Nid yw ein polisi dychwelyd yn berthnasol i eitemau sydd wedi'u personoli neu eu comisiynu. Os caiff eich nwyddau eu difrodi, cysylltwch â ni ymhen 24 awr ar ôl eu derbyn trwy e-bost
Rhaid eu dychwelyd atom yn y pecyn gwreiddiol ymhen 7 diwrnod ar ôl eu derbyn.
4. Datganiad Preifatrwydd
Mae Grasi wedi ymrwymo i sicrhau bod eich preifatrwydd yn cael ei amddiffyn. Bydd unrhyw wybodaeth a gasglir ar y wefan hon yn cael ei chadw'n hollol gyfrinachol gyda'r gofal mwyaf ac ni chaiff ei defnyddio mewn ffyrdd nad ydych wedi cydsynio iddynt.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi trwy anfon e-bost atom..