Amdanom ni
Cwmni teuluol yw Grasi a gafodd ei greu oherwydd galw gan siopau a busnesau lleol.
Mae ein cynnyrch yn cael eu gwneud â llaw yn ein gweithdy gan ddefnyddio llechi gorau, sef llechi o Gymru. Mae ein amrywiaeth o waith yn cynnwys darnau a fydd yn eistedd yn eich cartref am flynyddoedd i ddod.
Ar ôl gweithio yn y diwydiant llechi ers dros ugain mlynedd, ffurfiwyd Grasi i gynnig nwyddau o ansawdd i’r cartref gan ddefnyddio llechi Cymreig. Sefydlwyd Grasi ym Mencaenewydd ger Pwllheli ond bellach mae ganddom weithdy newydd wedi ei adeiladu ym mhentref cyfagos Chwilog. Daw’r llechi o chwareli lleol Blaenau Ffestiniog a Bethesda. Mae llechi Cymreig yn fyd enwog fel llechi gorau ac wedi cael eu allforio ledled y byd. Roeddant yn cael eu defnyddio rhan amlaf ar gyfer toi ond yn ddiweddar mae galw am lechi i greu cynnyrch modern i’r cartref. Daeth yr enw ‘Grasi’ o hen stori leol am ferch fach o’r enw Grasi a gafodd ei throi yn garreg gan ddewin llawer o flynyddoedd yn ôl. Mae ein cwmni Llechi LLD Cyf yn darparu cynnyrch o lechi ar gyfer cerrig aelwyd, sils ffenestri, lloriau a thopiau cegin.